Merched y Wawr

Mae Merched y Wawr Bro Cennech yn cwrdd ar y drydedd nos Iau unwaith y mis yng Nghanolfan Gymunedol Llangennech am 7.00 y.h.  Maent yn gwneud pob math o bethau amrywiol a diddorol e.e. ciniawa, teithio, cwisiau, crefftau, darlithiau, chwaraeon a.y.y.b. ac yn derbyn cylchgrawn ‘ Y Wawr ' pedair gwaith y flwyddyn.  Cyfle gwych i gymdeithasu a gwneud rhywbeth cadarnhaol trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hardal a chael hwyl wrth wneud hynny.  Croeso i unrhywun sydd â diddordeb i ymuno â ni.  Cysylltwch â Margaret Richards ar 01554 820568 neu Beryl Wright ar 01554 821036 am fwy o wybodaeth.

Merched y Wawr logo0001
 
Ionawr 19eg
Chwefror 16eg
Mawrth 16eg
Ebrill 20fed
Mai 18fed
Mehefin 15fed
Medi 21ain
Hydref 19eg
Tachwedd 16eg
Rhagfyr 21ain